Cartwnau

Mae Tinopolis Cymru wedi cynhyrchu ystod eang o gartwnau dros y blynyddoedd, gan gynnwys Holi Hana sydd wedi ennill gwobr BAFTA.

 

Diolch i'r ystafelloedd dybio, y bythau recordio a'r peirianwyr sain sydd gennym yng nghanolfan deledu Llanelli, rydym wedi ailysgrifennu ac ail-greu rhai o’r cartwnau enwocaf yn y byd. Mae'r rhain yn cynnwys Spynjbob Pantsgwâr, Octonots a Bing. Rydym hefyd wedi lleisio ffilmiau animeiddio fel Y Cythraul Celf a chyfresi animeiddio i blant meithrin fel Digbi Draig ac Og y Draenog Hapus yn Gymraeg.