Cofio Dafydd Hywel

Hanes eicon Cymreig o bersbectif y rhai oedd agosaf ato

Rhaglen deyrnged i un o actorion mwyaf eiconig Cymru, Dafydd Hywel. O'i fagwraeth yn Nyffryn Aman, i berfformio ar lwyfannau theatr, a chwarae rolau adnabyddus dros ben yn oes aur teledu a sinema Cymru. Mae’r rhaglen hon yn dathlu bywyd Alff Garnant ac yn rhoi cyfle i gyfeillion ac actorion Cymru dalu teyrnged iddo.