Greenham

Stori anghredadwy Comin Greenham: menywod Cymru yn yr ymgyrch heddwch

Ffilm ddogfen yn defnyddio archif o'r cyfnod a chyfweliadau newydd i adrodd straeon y 36 menyw o Gymru wnaeth orymdeithio o Gymru i Gomin Llu Awyr Brenhinol Greenham yn Berkshire i brotestio yn erbyn lleoli arfau niwclear y UDA ar dir cyffredin y Deyrnas Unedig.

 

Mewn penodau sy’n dilyn storiâu unigol y menywod, rydym yn gofyn sut mae bywydau a theimladau'r menywod hyn wedi newid 40 mlynedd yn ddiweddarach wrth iddynt rannu eu hatgofion a'u profiadau. Dyma gyfle i glywed am eu haberth, eu brwydr, eu gobeithion a'u hofnau yng nghanol y Rhyfel Oer.