Joe, Jock a'r Jincs Albanaidd

2 gêm, 2 gyfle i gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd, a 2 gic o'r smotyn...

Rhaglen ddogfen yn adrodd hanes y ddwy gêm bêl-droed ddadleuol rhwng Cymru a'r Alban ym 1977 ac 1985 wnaeth yrru Cymru allan o Gwpan y Byd. Er bod dros ddeugain mlynedd ers y gêm dyngedfennol gyntaf, mae’r ddwy genedl dal yn gystadleuol iawn. Fydd y Cymry byth yn gallu anghofio taw’r Alban wnaeth stopio nhw rhag codi’r tlws gymaint o flynyddoedd yn ôl? Ac ydyn nhw’n barod i faddau iddynt?