Newid Hinsawdd, Newid Byd: Covid-19

Covid-19: cyfle euraidd i droi’r cloc nôl ar ddifrod i’r amgylchedd?

Mae Steffan Griffiths a Daf Wyn yn edrych ar effaith y Pandemig ar hinsawdd y byd yn y rhaglen ddogfen yma. Gyda golygfeydd syfrdanol, a phwnc sy’n berthnasol i bawb, mae hon yn rhaglen fydd yn herio’r gydwybod wrth ofyn, a fydd Covid-19 yn gatalydd i droi’r cloc yn ôl ar y difrod i’r amgylchedd, neu ydy hi eisoes yn rhy hwyr?