Pawb a'i Farn

Rhaglen drafod materion cyfoes sy'n rhoi llais i bobl Cymru!

Mae Pawb a’i Farn yn rhaglen drafod materion cyfoes sy’n teithio i wahanol leoliadau yng Nghymru gan wahodd cynulleidfa leol i osod cwestiynau i banel o wleidyddion, arbenigwyr ac aelodau’r cyhoedd. Mae gan bob panelydd y cyfle i leisio eu barn ar bynciau llosg y dydd, ac maen nhw i gyd wedi eu dewis i adlewyrchu ystod o safbwyntiau gwleidyddol.