Sgwrs Dan y Lloer

Rhaglen sy'n cael pawb at ei gilydd i ddathlu’r elfen greadigol o Gymru

Yn y gyfres yma, mae Elin Fflur yn ymweld â gerddi rhai o sêr Cymru liw nos i sgwrsio am bopeth dan haul (... neu'r lloer!). Dyma gyfle i’r cyhoedd gael clywed mwy am brofiadau personol a straeon bywyd rhai o’r Cymry enwocaf, gan gynnwys actorion, darlledwyr a chyfansoddwyr mwyaf y wlad.