Windrush: Rhwng Dau Fyd

Rhaglen yn dathlu bywydau a siwrneiau cenhedlaeth Windrush

75 mlynedd ers i gannoedd o bobl o Ynysoedd y Caribî gyrraedd Prydain ar long yr Empire Windrush, rydym yn anrhydeddu cenhedlaeth Windrush ac yn dathlu'r teuluoedd sydd wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i Gymru – cyfraniad sydd dal i’w weld hyd heddiw.

 

Emily Pemberton sy’n holi am ein hunaniaeth ni'r Cymry, gan dynnu ar brofiadau ei theulu, ei ffrindiau a chymuned ddoe a heddiw yng Nghaerdydd. Mae’r rhaglen yn dathlu sut mae cenhedlaeth Windrush wedi dylanwadu ar fywyd Cymru a'i gyfoethogi.